Amdanom Ni
Asiantaeth adloniant arbennig iawn yw The Function Hub, a mae’n gweithio yn wahanol i’r rhan fwyaf. Sefydlwyd gan gerddor gyda gweledigaeth i gynnig yr adloniant gorau ar gyfer eich digwyddiad, ac hefyd i gynnig gwaith teg ar gyfer pob cerddor ar ein rhestr.
Mae The Function Hub wedi’i leoli yng Nghaernarfon, a rydym yn falch iawn o ddweud mai ni yw’r yr asiantaeth adloniant priodasol pennaf yng Ngogledd Cymru. Beth bynnag yr ydych yn chwilio amdan, rydym yma i’ch helpu!
Y tîm
Gwion Llewelyn
Cafodd The Function Hub ei greu gan Gwion Llewelyn, cerddor sydd wedi gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fel perfformiwr ag hyrwyddwr am dros pymtheg o flynyddoedd.
Gyda profiad o weithio fel cerddor llawn amser, roedd Gwion yn benderfynnol o greu adnodd lle oedd ganddo’r gallu i gynnig gwaith cyson, teg ar gyfer cerddorion talentog Gogledd Cymru, gan hefyd gynnig adloniant arbennig i briodasau a phartion ar draws y DU.
Mae Gwion wedi chwarae ar rhai o lwyfannau mwyaf adnabyddus y byd, a mae o ar hyn o bryd yn teithio gyda ennillwyr gwobr Ivor Novello, Villagers, yn o gystal â chantores/cyfansoddwr gwerin o Seland Newydd, Aldous Harding.
Ar yr adegau prin lle tydi Gwion ddim yn trafeilio, mae’n mwynhau cerdded mynyddoedd rhyfeddol Gogledd Cymru neu dal i fynu gyda ffrindiau a theulu tra’n mwynhau pizza vegan yn ei hoff le yn Ynys Môn, bwyty Dylan’s.
Ioan Gwyn
Aelod mwyaf diweddar tîm The Function Hub yw Ioan Gwyn. Mae gan Ioan radd dosbarth cyntaf gydag anrhydedd o The Academy of Contemporary Music, yn ogystal â gradd Meistr mewn Perfformio Cerddoriaeth Boblogaidd o Brifysgol Gaer.
Cafodd Ioan ei ddewis gan Gwion i fod yn rhan o fand ar gyfer The Function Hub, Four Kicks. Mae Four Kicks wedi bod yn brysur yn chwarae mewn priodasau a phartïon drwy’r flwyddyn, a mae nhw’n edrych ymlaen i weld lle mae The Function Hub yn eu arwain nesaf.
Mae profiadau Ioan fel cerddor yn amrywio o Clwb Ifor Bach i lwyfan yr Eisteddfod. Mae o wedi trafeilio o gwmpas Ewrop yn chwarae cerddoriaeth ac yn dysgu am ddiwylliannau eraill. Rwan, mae’n byw yng Nghaerdydd yn gweithio fel cerddor proffesiynnol, ag yn gweithio ochr yn ochr â Gwion tu ôl I’r lleni gyda The Function Hub, gyda’r cwmni yn edrych ymlaen at amseroedd cyffrous.