GETHIN GRIFFITHS
Yn wreiddiol o Bethel ger Caernarfon, mae Gethin yn bianydd profiadol. Mae Gethin wedi gweithio gyda llawer o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, a mae’n cyfuno ei ddawn technegol Gradd 8 gyda’i adnabyddiaeth eang o gerddoriaeth Roc, Pop a Jazz.
Mae Gethin wedi gweithio fel cyfarwyddwr cerddoriaeth ar gyfer cwmniau theatrig fel Cwmni Fran Wen, a mae o wedi hel profiad yn cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth newydd.
Byrfyfyriwr o fri, mae cerddoriaeth yn rhan mawr o fywyd Gethin, a mi fysa’n ddigon hapus yn chwarae’r biano trwy’r dydd, bob dydd.
Mae Gethin ar gael fel unawdydd ar gyfer eich seremoni, brecwast priodas, neu fel aelod ychwanegol i bob un o’n bandiau eraill, DJs, ac offerynwyr.
Crynodiad Playlist
Mae gan Gethin repertoire eang, a mae’n hapus i drio ychwanegu unrhyw gân i’w berfformiad er mwyn cynnig yr atmosffer perffaith i’ch digwyddiad.
Repertoire ar gael wrth ofyn.
Lleoliad
Mae Gethin wedi’w leoli ym Mangor - Mae’n hapus i drafeilio.