THE 1985
Os ydych chi'n chwilio am act gwirioneddol arbennig ar gyfer eich priodas neu ddigwyddiad, mae The 1985 yn cynnig profiad cerddoriaeth fyw premiwm sy'n gosod y safon.
Mae'r band talentog yma yn cynnwys cerddorion proffesiynol medrus iawn sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru, gyda pob un ohonynt yn dod â chyfoeth o brofiad perfformio rhyngwladol i'r llwyfan hefo nhw. Gyda'i gilydd, maent wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y DU, UDA, Sbaen, Ffrainc, a'r Dwyrain Canol, gan ennill enw da am ragoriaeth lle bynnag y maent yn perfformio.
Mae The 1985 yn perfforimio cymysgedd o ganeuon eiconig o'u set sy'n apelio at bob cenhedlaeth. Mae eu perfformiadau deinamig wedi'u cynllunio yn arbennig i gadw'r egni'n uchel a'r llawr ddawns yn llawn o'r nodyn cyntaf un i'r encore olaf.
Fel pedwarawd profiadol, maent yn gwybod yn union sut i ddarllen y dorf a darparu awyrgylch bythgofiadwy. Gyda steil a thalent, The 1985 yw'r dewis perffaith i'r rhai sy'n edrych i ychwanegu adloniant byw rhagorol i'w digwyddiad arbannig.Crynodeb Playlist
Cymraeg
Anifail - Candelas
Calon - Diffiniad
Ceidwad y Goleudy - Bryn Fon
Cymru, Lloegr a Llanrwst - Y Cyrff
Gwesty Cymru - Geraint Jarman
Hapus - Topper
Rhedeg i Paris - Yr Anrhefn
Shampw - Bando
Ty Ar Y Mynydd - Maharishi
Saesneg
9 to 5 - Dolly Parton
Ain’t No Mountain High Enough - Diana Ross
Be My Baby - The Ronettes
Blame it on the Boogie - The Jacksons
Crazy In Love - Beyoncé
Dakota - Stereophonics
Dancing in the Street - Martha & The Vandellas
Dancing Queen - ABBA
Don’t Stop Me Now - Queen
Get Lucky - Daft Punk
Good Times - Chic
Go Your Own Way - Fleetwood Mac
Happy - Pharell
Hold My Hand - Jess Glynne
Heart Of Glass - Blondie
I Drove All Night - Roy Orbison
I Feel Good - James Brown
I Wanna Dance With Somebody - Whitney Houston
Johnny B Goode - Chuck Berry
Mercy - Duffy
Murder on the Dancefloor - Sophie Ellis-Bextor
Play That Funky Music - Wild Cherry
Proud Mary - Tina Turner
Respect - Aretha Franklin
Rolling In The Deep - Adele
September - Earth, Wind & Fire
Sex On Fire - Kings Of Leon
Shake it Off - Taylor Swift
Shut Up And Dance - Walk The Moon
Signed Sealed Delivered - Stevie Wonder
Summer of ‘69 - Bryan Adams
Superstition - Stevie Wonder
Treasure - Bruno Mars
Uptown Funk - Bruno Mars
Valerie - Amy Winehouse
We Are Family - Sister Sledge
Young Hearts Run Free - Candi Staton
Opsiynau Archebu
Gwasanaeth DJ am ddim!
Mae pob un o’n hactau yn dod gyda gwasanaeth DJ am ddim sydd yn golygu ni fyddych angen poeni am unrhyw wactod rhwng y gerddoriaeth byw! Rydym hefyd yn cynnig opsiwn ‘Manned Playlist’ os fysech yn hoffi gwneud ceisiadau ar y noson.
Dawns Gyntaf Byw!
Oes gennych gan arbennig bysech yn hoffi ei glywed wedi ei berfformio yn fyw fel dawns gyntaf? Mae pob un o’n hactau yn cynnig opsiwn Dawns Gyntaf Byw.
Unrhyw Adeg o’r Diwrnod!
The 1985 yw’r band perffaith ar gyfer adloniant nos, ond oeddech yn gwybod gennym amrywiaeth o ddeuawdau ac unawdwyr ar gael i’w bwcio ar gyfer Seremonïau a Derbynfeydd?
Gwnewch o’n Fwy!
Er bod The 1985 yn cynnig profiad band lawn, beth am ychwanegu un o’n hunawdwyr talentog i greu profiad hollol unigryw? Mae ein rhwydwaith eang o gerddorion yn ein galluogi i ffeindio'r perfformwyr perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Offer ac Oriau Ychwanegol
Mae pob un o’n hactau yn dod gyda system PA a Goleuo llawn ar gyfer pob math o leoliad, yn cynnwys marquee a thipi. Os bysech yn hoffi ychwanegu mwy o oleuadau neu lwyfan – cysylltwch â ni! Mae ein hactau hefyd yn cynnig opsiwn ar gyfer Oriau Ychwanegol os nad ydych eisiau’r parti i orffen!
Cysylltwch â Ni!
Mae pob un digwyddiad yn arbennig ac yn wahanol yn ei ffordd. Cysylltwch â ni i weld sut fedrith ein hopsiynau adloniant fod yn berffaith ar eich cyfer.
Lleoliad
Mae’r band wedi’w lleoli ar draws Gogledd Cymru, ond maent yn chwarae ledled y DU yn aml ac yn hapus i drafeilio.