Video Block
Double-click here to add a video by URL or embed code. Learn more

UNDERCOVER


Mae Undercover yn fand priodas a phartïon premiwm o Ogledd Cymru sy'n cadw'r llawr ddawns yn llawn o'r nodyn cyntaf. Gyda'u canu pwerus a'u egni ar y llwyfan, mae Undercover yn gwybod yn union sut i droi nosweithiau gwych yn ddathliadau bythgofiadwy.

Gyda cyn-enillydd Cân i Gymru (Sara Davies) wrth y llyw, mae gan y band brofiad sy'n ymestyn dros nifer o flynyddoedd a llwyfannau enfawr ledled Cymru.

Mae eu set wedi'i lunio'n ofalus o'ch cwmpas chi a'ch gwesteion, gan gynnwys digonedd o ganeuon allwch chi ganu a dawnsio i trwy'r nos. 

I gyplau sydd eisiau band priodas sy'n swnio'n wych, yn edrych y rhan, ac yn cadw pawb yn symud gyda chaneuon mae pobl yn eu caru, mae Undercover yn cynnig profiad cerddoriaeth fyw gwirioneddol arbennig o'r dechrau i'r diwedd.

Crynodeb Playlist


Cymraeg

  • Setlist Cymraeg ar y ffordd yn fuan!

Saesneg

  • Don’t Stop Me Now

  • Valerie

  • 9 to 5

  • Rolling in the Deep

  • Party in the USA

  • Man I Need

  • Moves Like Jagger

  • Domino

  • Single Ladies

  • 5 Colours in Her Hair

  • Livin’ La Vida Loca

  • Where is My Husband

  • Blame it on the Boogie

  • Does Your Mother Know

  • Flowers

  • Toxic

  • Since U Been Gone

  • Sk8er Boi

  • Man, I Feel Like a Woman

  • We Found Love

  • Girls Just Wanna Have Fun

  • I Wanna Dance With Somebody

  • The Best

  • Livin’ on a Prayer

    …a mwy!


Opsiynau Archebu


  • Gwasanaeth DJ am ddim!

Mae pob un o’n hactau yn dod gyda gwasanaeth DJ am ddim sydd yn golygu ni fyddych angen poeni am unrhyw wactod rhwng y gerddoriaeth byw! Rydym hefyd yn cynnig opsiwn ‘Manned Playlist’ os fysech yn hoffi gwneud ceisiadau ar y noson.

  • Dawns Gyntaf Byw!

Oes gennych gan arbennig bysech yn hoffi ei glywed wedi ei berfformio yn fyw fel dawns gyntaf? Mae pob un o’n hactau yn cynnig opsiwn Dawns Gyntaf Byw.

  • Unrhyw Adeg o’r Diwrnod!

Undercover yw’r band perffaith ar gyfer adloniant nos, ond oeddech yn gwybod gennym amrywiaeth o ddeuawdau ac unawdwyr ar gael i’w bwcio ar gyfer Seremonïau a Derbynfeydd?

  • Gwnewch o’n Fwy!

Er bod Undercover yn cynnig profiad band lawn, beth am ychwanegu un o’n hunawdwyr talentog i greu profiad hollol unigryw? Mae ein rhwydwaith eang o gerddorion yn ein galluogi i ffeindio'r perfformwyr perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.

  • Offer ac Oriau Ychwanegol

Mae pob un o’n hactau yn dod gyda system PA a Goleuo llawn ar gyfer pob math o leoliad, yn cynnwys marquee a thipi. Os bysech yn hoffi ychwanegu mwy o oleuadau neu lwyfan – cysylltwch â ni! Mae ein hactau hefyd yn cynnig opsiwn ar gyfer Oriau Ychwanegol os nad ydych eisiau’r parti i orffen!

  • Cysylltwch â Ni!

Mae pob un digwyddiad yn arbennig ac yn wahanol yn ei ffordd. Cysylltwch â ni i weld sut fedrith ein hopsiynau adloniant fod yn berffaith ar eich cyfer.


Lleoliad

Mae’r band wedi’w lleoli ar draws Gogledd Cymru, ond maent yn chwarae ledled y DU yn aml ac yn hapus i drafeilio.



THE 1965

THE SWING

HYPERSONIC